For information in English - please go here. 

Ydych chi’n ymarferydd yn y celfyddydau perfformio yng Nghymru sy’n gweithio naill ai’n llawrydd neu i sefydliad? Ydych chi’n wynebu heriau wrth gefnogi eich gweithlu o rieni a gofalwyr, neu’n cael trafferth rheoli eich cyfrifoldebau gofalu eich hun? Rydyn ni’n lansio rhaglen gyffrous newydd sy’n cael ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Ei nod yw sicrhau newid go iawn o ran gwneud y celfyddydau perfformio yng Nghymru yn gyflogwr sy’n fwy ystyriol o deuluoedd – ac mae angen eich llais chi arnom ni!

Pam mae hyn yn bwysig
Mae rhieni a gofalwyr yn y celfyddydau perfformio dan anfantais oherwydd arferion y diwydiant ar hyn o bryd. Mae oriau afreolaidd, gofynion teithio, ac amserlennu munud olaf yn ei gwneud yn anodd i ofalwyr ffynnu yn eu gyrfaoedd.
 Roedd 85% o bobl sy’n gweithio yn y celfyddydau wedi gwrthod gwaith oherwydd dyletswyddau magu plant neu ofalu.
Ddylai neb orfod dewis rhwng eu teulu a gyrfa yn y celfyddydau. Rydyn ni yma i helpu i greu amgylchedd gwaith mwy cynhwysol a chefnogol i bawb.

Y Rhaglen
Mewn cydweithrediad â Creu Cymru, Theatr Clwyd, Canolfan Mileniwm Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, rydyn ni’n lansio rhaglen lefel mynediad i bobl sy’n creu newid. Nod y fenter hon yw:
• Codi ymwybyddiaeth o’r heriau y mae rhieni a gofalwyr yn eu hwynebu.
• Datblygu strategaethau i gefnogi gofalwyr yn y celfyddydau perfformio yng Nghymru.
• Adeiladu rhwydwaith a fydd yn creu dyfodol sy’n ystyriol o deuluoedd i’r sector.

Mae’r rhaglen yn ddi-dâl ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer trawsnewid a meithrin talent, a bydd yn addasu gwersi o’n gwaith llwyddiannus yn Lloegr a’r Alban.

Beth yw’r manteision i chi?
Drwy ymuno, byddwch yn rhan o weithgor sy’n cwrdd ar-lein bum gwaith i ddatblygu strategaethau wedi’u teilwra i Gymru. Byddwch yn:
• Llunio polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd yn y celfyddydau
• Datblygu adnoddau ar gyfer arferion gweithio mwy cynhwysol
• Rhannu heriau a’r hyn sydd wedi’i ddysgu mewn gweithgorau ar-lein
• Cymryd rhan mewn ymchwil gweithredol i nodi anghenion penodol y sector yng Nghymru.
• Rhwydweithio a rhannu profiadau gyda chymheiriaid ledled y DU.

Penllanw’r rhaglen fydd digwyddiad wyneb yn wyneb yng Nghynhadledd Creu Cymru fis Ebrill 2025, lle byddwn yn rhannu’r hyn sydd wedi’i ddysgu â’r sector ehangach, gan lansio map ar gyfer dyfodol cymorth i rieni a gofalwyr yng nghymuned gelfyddydol Cymru.

Y Weledigaeth Hirdymor
Nid dim ond newid tymor byr ydyn ni am ei weld. Bydd y fenter hon yn:
• Creu newid diwylliannol parhaol tuag at arferion sy’n ystyriol o deuluoedd yn y celfyddydau perfformio yng Nghymru.
• Datblygu glasbrint ar gyfer y dyfodol, gan osod safon i ranbarthau eraill ei dilyn.
• Sefydlu PiPA Cymru, cangen benodol i sicrhau cymorth parhaus i rieni a gofalwyr yn y celfyddydau.


Pam gweithio mewn partneriaeth â PiPA?
PiPA (Rhieni a Gofalwyr yn y Celfyddydau Perfformio) yw’r unig sefydliad yn y Deyrnas Unedig sydd wedi ymrwymo i wella amodau ar gyfer gofalwyr yn y celfyddydau. Mae ein Rhaglen Siarter yn helpu dros 70 o sefydliadau i roi arferion gweithio hyblyg ar waith. Gyda’n gilydd, gallwn sbarduno trawsnewid yng Nghymru a thu hwnt.

 

Barod i Wneud Gwahaniaeth?
Helpwch ni i baratoi’r ffordd ar gyfer sector celfyddydau perfformio mwy amrywiol, cynhwysol ac ystyriol o deuluoedd yng Nghymru. Ymunwch â’r rhaglen, rhannwch eich profiadau, a sbardunwch newid.
Cliciwch YMA i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen ac i gofrestru eich diddordeb. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag admin@pipacampaign.org